Gwybodaeth Digwyddiad
28 Mawrth 2025 – 8yh
Tocynnau £12
Gyda’i gyrfa canu a recordio yn ymestyn yn ôl dros ugain mlynedd mae Meinir Gwilym wedi perfformio ar brif lwyfannau Cymru i gyd, ac yn dychwelyd i Gray’s Inn Road am y tro cyntaf ers 15 mlynedd. Mae ei chaneuon gwreiddiol gonest ac apelgar wedi hen ennill eu plwyf a’i pherfformiadau byw niferus yn adnewyddu’r enaid ac yn cyffwrdd y galon.